Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
18 Tachwedd 2019
SL(5)469 – Cod Ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas ag Eiriolaeth o ran Rhan 10 a rhannau cysylltiedig o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Cod yn nodi’r gofynion canlynol ar gyfer awdurdodau lleol:
(a) sicrhau bod mynediad at wasanaethau a chymorth eiriolaeth ar gael fel bod unigolion yn gallu ymgysylltu a chyfranogi pan fydd awdurdodau lleol yn arfer dyletswyddau statudol mewn perthynas â nhw;
(b) trefnu bod eiriolwr proffesiynol annibynnol yn hwyluso cyfraniad unigolion mewn amgylchiadau penodol.
Mae’r Cod yn dweud ei fod hefyd yn nodi:
· dewis pobl i gael rhywun i eirioli drostynt,
· fframwaith clir i gefnogi a grymuso unigolion i wneud dewisiadau,
· cadarnhaol ar sail gwybodaeth,
· cydnabyddiaeth eglur o fanteision eiriolaeth,
· yr ystod o wasanaethau eirioli sydd ar gael i bobl,
· yr adegau allweddol pan fo’n rhaid i angen pobl am eiriolaeth gael ei asesu,
· pryd y mae’n rhaid darparu eiriolaeth annibynnol,
· yr amgylchiadau sy’n effeithio ar angen pobl am eiriolaeth,
· yr amgylchiadau pan fo’n amhriodol i rai pobl eirioli,
· y trefniadau ar gyfer rhoi cyhoeddusrwydd i wasanaethau eirioli,
· codi ffioedd am wasanaethau eirioli.
Gweithdrefn
Rhaid gosod drafft o’r Cod gerbron y Cynulliad. Os, o fewn 40 diwrnod (heb gynnwys unrhyw amser pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei ddiddymu neu pan fydd ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) o osod y drafft, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r drafft, ni chaniateir i Weinidogion Cymru ddyroddi’r Cod.
Os na wneir penderfyniad o’r fath cyn diwedd y cyfnod hwnnw, rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi’r Cod ar ffurf y drafft, a daw’r Cod i rym ar y dyddiad a bennir drwy orchymyn Gweinidogion Cymru.
Rhiant-Ddeddf: Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Fe’u gwnaed ar:
Fe’u gosodwyd ar: 06 Tachwedd 2019
Yn dod i rym ar: